Gweithlu, Sgiliau ac Addysg
Cadeirydd y Bwrdd:
Yr Athro John Gammon, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd a Dynol Prifysgol Abertawe
Mae Rhaglen Gweithlu, Sgiliau ac Addysg ARCH yn anelu at ehangu mynediad a chyfleoedd ar gyfer pobl sy'n byw o fewn y rhanbarth i ddilyn gyrfa gyda'r GIG ac i hyrwyddo de orllewin Cymru fel dewis pobl i hyfforddi, i weithio ac i fyw.
O dan Arweinyddiaeth Weithredol Dirprwy Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y ddau Fwrdd Iechyd, mae Rhaglen Gweithlu, Sgiliau ac Addysg ARCH wedi cytuno ar 3 phrosiect ac 1 prosiect posib i ganolbwyntio arnynt yn ei gam nesaf o gyflawni.Mae'r rhain fel y ganlyn:
- Fframwaith Gyrfa Prentisiaeth
- Rhaglen Profiad Ysgol (16-18 mlwydd oed)
- Rhaglen Llesiant Gweithle
- Rhwydwaith Rhanbarthol o Wellhawyr
Mae'r rhaglen yn elwa ar aelodaeth eang ar draws rheolwyr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ar draws y rhanbarth, o fewn amryw sefydliad.