Bwrdd Rhaglen ARCH
Mae Bwrdd Rhaglen ARCH wedi ei wneud o aelodau o bob un o'r tri phartner.Mae'r Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd a Prif Weithredwr y ddau Fwrdd Iechyd, a Phrifathro Iechyd a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.Mae Bwrdd Rhaglen ARCH yn dal Grŵp Darparu ac Arwain ARCH yn gyfrifol am ddarpariaeth, cyflymder a rhaglenni gwaith o fewn portffolio ARCH.
Grŵp Darparu ac Arwain ARCH (DLG)
Mae Grŵp Darparu ac Arwain ARCH (DLG) wedi ei sefydlu er mwyn sicrhau darpariaeth y prosiectau sydd ym Mhortffolio ARCH.Mae'r DLG yn cyfarfod yn aml ac yn cynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol pob un o'r tri sefydliad partner sofran a Chadeirydd pob un o bedair Rhaglen ARCH.
Mae'r DLG yn adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Rhaglen ARCH, sydd wedi dirprwyo cyfrifoldeb o bob un o'r tri sefydliad sofran.
Swyddfa Rheoli Rhaglen ARCH
Cafodd Swyddfa Rheoli Rhaglen ARCH ei sefydlu ym mis Ebrill 2016 i ddarparu cefnogaeth Rhaglen ymroddedig i lu o brosiectau sy'n cael eu hadnabod o fewn Cynllun Cyflenwi Portffolio ARCH (PDP).Mae strwythur y tîm wedi newid ers dechrau ARCH, ac mae nawr yn cynnwys chwe aelod parhaol, ac 1 aelod cyfnod penodol.